2 Samuel 13

Amnon yn treisio Tamar

1Yna beth amser wedyn digwyddodd hyn:

Roedd gan Absalom, mab Dafydd, chwaer o'r enw Tamar, oedd yn arbennig o hardd. Roedd Amnon, mab arall i Dafydd, yn ei ffansïo hi. 2Roedd ei deimladau ati mor gryf roedd yn gwneud ei hun yn sâl. Roedd Tamar wedi cyrraedd oed priodi ac yn wyryf, ond doedd Amnon ddim yn gweld unrhyw ffordd y gallai e ei chael hi.

3Roedd gan Amnon ffrind o'r enw Jonadab (mab Shamma
13:3 Shamma Hebraeg,  Shimea – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13)
, brawd Dafydd). Roedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn.
4Dyma fe'n gofyn i Amnon, “Beth sy'n bod? Ti ydy mab y brenin. Pam wyt ti mor ddigalon drwy'r amser? Wnei di ddim dweud wrtho i beth sydd?” A dyma Amnon yn ateb, “Dw i mewn cariad hefo Tamar, chwaer Absalom.”

5Yna dyma Jonadab yn dweud wrtho, “Dos i orwedd ar dy wely ac esgus bod yn sâl. Wedyn, pan fydd dy dad yn dod i dy weld, dywed wrtho, ‘Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i wneud bwyd i mi. Gad iddi ei baratoi o'm blaen i, ac wedyn fy mwydo i.’”

6Felly dyma Amnon yn mynd i'w wely a smalio bod yn sâl. Daeth y brenin i'w weld, a dyma Amnon yn dweud wrtho, “Plîs gad i Tamar, fy chwaer, ddod i baratoi cacennau sbesial o'm blaen i, ac wedyn fy mwydo i.”

7Dyma Dafydd yn anfon neges at Tamar yn y palas, yn dweud wrthi am fynd i dŷ ei brawd Amnon i wneud bwyd iddo. 8A dyma Tamar yn mynd i dŷ Amnon, lle roedd yn gorwedd. Cymerodd does a'i baratoi o'i flaen a'i goginio. 9Ond pan ddaeth â'r bwyd ato, dyma Amnon yn gwrthod bwyta. Yna dyma fe'n gorchymyn i'w weision “Pawb allan o ma!” a dyma nhw i gyd yn mynd.

10Wedyn dyma Amnon yn dweud wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r ystafell wely, a gwna i fwyta yno.” Felly dyma Tamar yn mynd â'r bwyd oedd hi newydd ei baratoi at ei brawd Amnon i'r ystafell wely. 11Ond wrth iddi ei annog i fwyta, dyma fe'n gafael ynddi a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi, chwaer.” 12“Na! frawd, paid!” meddai hi. “Paid treisio fi. Dydy pobl Israel ddim yn gwneud pethau fel yna. Paid gwneud peth mor erchyll. 13Allwn i ddim byw gyda'r cywilydd. A fyddai neb yn Israel yn dy barchu di am wneud peth mor erchyll. Plîs paid. Gofyn i'n tad, y brenin; wnaiff e ddim gwrthod fy rhoi i ti.”
13:13 Doedd priodas o'r fath ddim yn dderbyniol yn ôl y Gyfraith (Lefiticus 18:9,11; 20:17), er fod enghreifftiau yn gynharach yn hanes Israel (Genesis 20:12)
14Ond doedd Amnon ddim am wrando arni. Roedd yn gryfach na hi, a dyma fe'n ei dal hi i lawr a'i threisio.

15Ond wedyn dyma fe'n dechrau ei chasáu hi go iawn. Roedd yn ei chasáu hi nawr fwy nag roedd yn ei charu hi o'r blaen. A dyma fe'n dweud wrthi, “Cod! Dos o ma!”

16Ond dyma Tamar yn ateb, “Na! Plîs paid! Mae fy anfon i ffwrdd nawr yn waeth na beth rwyt ti newydd ei wneud!” Ond doedd e ddim am wrando arni. 17A dyma fe'n galw ei was ystafell, a dweud wrtho, “Dos â hon allan, a chloi'r drws tu ôl iddi!”

18Felly dyma'r gwas yn ei thaflu allan, a bolltio'r drws ar ei hôl.

Roedd hi mewn gwisg laes (y math o wisg fyddai merched dibriod y brenin yn arfer ei wisgo.) 19Ond dyma Tamar yn rhwygo'r wisg a rhoi lludw ar ei phen. Aeth i ffwrdd â'i dwylo dros ei hwyneb, yn crïo'n uchel. 20A dyma Absalom, ei brawd, yn gofyn iddi, “Ydy'r brawd yna sydd gen ti, Amnon, wedi gwneud rhywbeth i ti? Paid dweud dim am y peth gan ei fod yn frawd i ti. Ond paid ti â poeni.” Yna aeth Tamar i aros yn nhŷ ei brawd Absalom, yn unig ac wedi torri ei chalon.

21Pan glywodd y brenin Dafydd am bopeth oedd wedi digwydd, roedd yn flin ofnadwy. 22Ond wnaeth Absalom ddweud dim o gwbl wrth Amnon, er ei fod yn ei gasáu am beth wnaeth e i'w chwaer Tamar.

Absalom yn dial ar Amnon

23Aeth dwy flynedd heibio. Roedd gweision Absalom yn cneifio yn Baal-chatsor
13:23 Baal-chatsor Tua 15 milltir i'r gogledd o Jerwsalem
, wrth ymyl tref o'r enw Effraim. A dyma Absalom yn gwahodd meibion y brenin i gyd i barti.
24Aeth at y brenin a dweud, “Mae'r dynion acw'n cneifio. Tyrd aton ni i'r parti, a tyrd â dy swyddogion hefyd.”

25“Na, machgen i,” meddai'r brenin. “Ddown ni ddim i gyd, neu byddwn yn faich arnat ti.” Er i Absalom bwyso arno, doedd e ddim yn fodlon mynd. Ond dyma fe yn dymuno'n dda iddo.

26Ond wedyn, dyma Absalom yn dweud, “Os ddoi di dy hun ddim, plîs gad i'm brawd Amnon ddod.”

“Pam fyddet ti eisiau iddo fe fynd gyda ti?” holodd y brenin. 27Ond roedd Absalom yn dal i bwyso arno, ac yn y diwedd dyma'r brenin yn anfon Amnon a'i feibion eraill i gyd. A dyma Absalom yn paratoi parti digon da i frenin.
13:27 A dyma … i frenin Fel rhai llawysgrifau.

28Dwedodd Absalom wrth ei weision, “Gwyliwch Amnon. Dw i eisiau i chi aros nes bydd e ychydig yn chwil. Wedyn pan fydda i'n dweud, lladdwch e! Peidiwch bod ofn. Fi sydd wedi dweud wrthoch chi i wneud hyn. Byddwch yn ddewr!” 29Felly dyma weision Absalom yn lladd Amnon. A dyma feibion eraill y brenin yn codi, neidio ar eu mulod, a dianc.

30Tra roedden nhw ar eu ffordd adre, roedd Dafydd wedi clywed si fod Absalom wedi lladd ei feibion e i gyd, a bod dim un ohonyn nhw'n dal yn fyw. 31Felly cododd y brenin, rhwygo ei ddillad a gorwedd ar lawr. Ac roedd ei weision i gyd yn sefyll o'i gwmpas, wedi rhwygo eu dillad nhw hefyd.

32Ond dyma Jonadab (mab Shamma
13:32 Shamma Hebraeg,  Shimea – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13)
, brawd Dafydd) yn dweud, “Syr, paid meddwl fod dy feibion i gyd wedi ei lladd. Dim ond Amnon fydd wedi marw. Mae Absalom wedi bod yn cynllunio hyn ers i Amnon dreisio ei chwaer e, Tamar.
33Ddylai'r brenin ddim credu'r stori fod ei feibion i gyd wedi eu lladd. Dim ond Amnon sydd wedi marw, 34a bydd Absalom wedi dianc.”

Yna dyma'r gwyliwr oedd ar ddyletswydd yn edrych allan a gweld tyrfa o bobl yn dod heibio'r bryn o gyfeiriad trefi Beth-choron. 35A dyma Jonadab yn dweud wrth y brenin, “Edrych, dy feibion sy'n dod, fel gwnes i ddweud!” 36A'r eiliad honno dyma feibion y brenin yn cyrraedd, yn crïo'n uchel. A dyma'r brenin ei hun a'i swyddogion i gyd yn dechrau beichio crïo hefyd.

37Buodd Dafydd yn galaru am ei fab Amnon
13:37 Amnon Amnon oedd mab hynaf Dafydd, a'r un fyddai wedi ei olynu fel brenin.
am amser hir. Roedd Absalom wedi dianc at Talmai
13:37,38 Talmai Taid Absalom, sef tad ei fam. (gw. 3:3).
fab Amihwd, brenin Geshwr.
38Arhosodd yn Geshwr am dair blynedd. 39Erbyn hynny roedd Dafydd wedi dod dros farwolaeth Amnon, ac yn dechrau hiraethu am Absalom.

Copyright information for CYM